Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio) (Cymru) 2024
Pwynt Craffu Technegol: Gall Llywodraeth Cymru gadarnhau bod gwall yng ngholofn 2 o’r tabl a fewnosodwyd fel Atodlen 1. Dylai’r ffigur cywir am ‘Soliped’ (anifail carngaled) fod ‘0.4287’ fesul carcas, yn hytrach na ‘0.04287’. Ni ddisgwylir i'r gwall hwn gael unrhyw effaith, gan nad oes lladd-dai yng Nghymru ar hyn o bryd sydd wedi eu trwyddedu i ladd anifeiliaid carngaled.
Mae swyddogion wrthi’n ymgysylltu â Chofrestrydd yr Offerynnau Statudol i weld a ellir gwneud y diwygiadau drwy slip cywiro. Bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu’r Pwyllgor pan fydd cywiriad wedi ei wneud.